Siwan Davies Subtle llaiMae Siwan yn wreiddiol o Drefdraeth, Sir Benfro ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Preseli. Ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth o Goleg Iesu, Rhydychen symudodd i gwblhau gradd Meistr a PhD yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain.

Ar ôl gweithio fel ymchwilydd ym Mhrifysgol Stockholm a Phrifysgol Copenhagen, cychwynodd fel darlithydd Daearyddiaeth ym Mrifysgol Abertawe yn 2004. Yn 2012 cafodd ei gwobrwyo gyda Chadair bersonol. Mae ei gwaith ymchwil yn ymdrin â newid hinsawdd y gorffennol gan edrych ar y cliwiau sydd wedi eu preserfio ym mherfeddion llen iâ yr Ynys Las a dyddodion o wely’r môr a llynoedd Cymru. O fewn cofnodion o’r fath, mae gronynnau o ludw folcanig meicroscopig sy’n ein helpu i ddeall pryd a pha mor gyflym wnaeth yr hinsawdd newid yn y gorffennol. Mae ei gwaith ymchwil wedi derbyn nawdd oddi wrth y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC), Ymddiriedolaeth Leverhulme a’r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC). Mae Siwan hefyd wedi derbyn gwobr Philip Leverhulme a Chronfa Lyell y Gymdeithas Ddaearegol.

 

css.php

© MenywodCymru

aht-logoCCC-Melyn

Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe