Branwen TuckerDwi’n ffodus iawn i fod yn rheolwr swyddfeydd Ericsson yng Nghaerdydd, ar safle BBC Wales. Rwy wrth fy modd yn gweithio gyda thîm arbennig o staff, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond ar draws y DU. Mae fy ngwaith yn amrywiol iawn; yn ogystal â rheoli staff, byddaf yn delio â chleientau, trafod contractau, datblygu technoleg newydd, cynllunio amserlenni teledu neu trafod gyda gwylwyr. O ddydd i ddydd, mae’r amrywiaeth enfawr o gynnyrch a sianeli rydym yn eu trafod yn ysbrydoledig ac mae’r feddalwedd isdeitlo rydym wedi ei datblygu dros y blynyddoedd yn wych. Mae’r feddalwedd adnabod llais a ddefnyddiwn ar gyfer isdeitlo byw yn arbennig o dda, yn enwedig pan gaiff ei ddefnyddio gyda chyfieithu byw. Rwy hefyd yn falch o gael gweithio mewn awyrgylch uniaith Gymraeg – rhywbeth i’w drysori.

Mae menywod ar draws y byd heddiw yn wynebu heriau i raddau gwahanol, p’un ai i gael eu trin yn gydradd â dynion yn y gwaith yn y byd datblygedig, neu’r erledigaeth mae rhai menywod yn ei wynebu mewn cymdeithasau llai datblygedig. Wrth ddathlu’r hyn mae menywod wedi’i gyflawni yn hanesyddol a heddiw, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn uno menywod dros y byd i gyflawni drostynt eu hunain. All pob un ohonom ddim gwneud pethau mawr, ond os gwnaiff bawb rhywbeth bach, gallwn fod yn fawr gyda’n gilydd.

 

Wrth fagu fy merched, rwy’n gobeithio fy mod wedi rhoi’r hyder iddynt i beidio cwestiynu neu amau eu hunain, ond i ymdrechu i wireddu eu hamcanion a’u breuddwydion gystal ag y gallant. Gobeithiaf y gallant fod yn gryf yn wyneb caledi a pheidio bod ag ofn methu. Hoffwn iddynt fod yn driw i’w hunain, i beidio cydymffurfio i stereoteipiau, i gael perthnasau llwyddiannus ac yn bennaf oll i fod yn hapus. Dyna’r hyn yr hoffwn ar gyfer menywod ym mhob man.

css.php

© MenywodCymru

aht-logoCCC-Melyn

Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe