Llun trwy garedigrwydd Richard Morris.

 

Roedd Amy Dillwyn (1845-1935) yn awdur, diwydianwraig ac ymgyrchydd arloesol. Roedd ei gwisg hynod yn ei hamlygu fel gwraig oedd yn benderfynol o herio confensiwn y cyfnod: gwisgai het trilby a siaced wrywaidd, ac roedd yn hoff o gynnau sigâr mewn digwyddiadau dinesig. Yn 1902, disgrifiodd y Pall Mall Gazette hi fel ‘y fenyw fwyaf rhyfeddol ym Mhrydain’ (ac mae hynny i’w briodoli i fwy na’i sigâr). Yn ôl ei disgrifiad ei hun roedd yn ‘ddyn busnes’ a drawsnewidiodd gwaith spelter oedd yn meth-dalu yn fusnes lwyddiannus, gan ad-dalu credydwyr ei thad ac yn y pen-draw gwerthu’r cwmni yn 1905 gan wneud tipyn o elw.

Yn ystod yr 1880au, cyhoeddodd Dillwyn nifer o nofelau llwyddiannus, pob un ohonynt ag iddi neges ffeministaidd gref, ac yn aml thema radical gymdeithasol. Mae ei phedwaredd nofel, Jill, am fenyw ifanc sy’n dianc i Lundain, wedi ei gwisgo fel morwyn. Mae ei nofel enwocaf, The Rebecca Rioter, am y gwrthryfel a ledodd ar draws gorllewin Cymru yn 1839-43. Mae’r stori yn cael ei hadrodd o safbwynt un o’r gwrthryfelwyr a hynny gyda chryn egni a dirmyg amlwg tuag at awdurod.

Roedd beirniadaeth Dillwyn o’r modd y cai’r dosbarth gweithiol eu trin yn treiddio i’w gwleidydiaeth, ac yn 1911 cefnogodd brotestiadau y teilwresau oedd yn streicio yn erbyn amodau chwyslyd siop nodedig Ben Evans yn Abertawe. Roedd y digwyddiad hwn yn brawf ar y Ddeddf Ffatri newydd ac fe’i trafodwyd yn helaeth yn y senedd ac yn y wasg. Galwodd Amy Dillwyn ar gwsmeriaid i gadw draw o’r siop a bu’n allweddol yn y cyfarfod lle bu’r cynrychiolwyr amlwg yr undebau llafur Mary McArthur a Margaret Bondfield (a ddaeth yn un o’r AS Llafur cyntaf) yn areithio.

 

 Dr Kirsti Bohata – Athro Cysylltiol mewn Llenyddiaeth Saesneg, Prifysgol Abertawe.

Kirsti BohataDechreuais fy ymchwil ar yr awdur Amy Dillwyn oherwydd ei ffeministiaeth danbaid. Mae ei harwresau yn barod iawn i ddiystyru gender a chonfensiynau cymdeithasol a’i ffeministiaeth yn cyd-fynd ȃ’i hawydd i adnabod gorthrwm mewn meysydd eraill. Er ei bod yn dod o gefndir breintiedig, mae ei nofel gyntaf, The Rebecca Rioter (1880) yn astudiaeth o anghyfiawnder cymdeithasol gyda Chymro Cymraeg dosbarth gweithiol yn gymeriad canolog iddi, mae ei hail nofel yn dilyn hanes criw o botsiars arfog sy’n tanio ar AS annioddefol sy’n dirfeddiannwr. O astudio ei gwaith ymhellach, buan y sylweddolais mai prif thema arall ei nofelau (nad yw’n amlwg ar yr olwg gyntaf) yw archwiliad o gariad rhwng menywod. Pan ddarllenais ei dyddiaduron, oedd ar y pryd mewn meddiant preifat, deuthum ar draws gwreiddiau bywgraffyddol grymus y thema hon. O sefydlu pwysigrwydd ffuglen Dillwyn a’i dyddiaduron i hanes queer ac ysgrifennu gan fenywod Oes Fictoria fe’m gwobrwywyd ȃ Chymrodoriaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i weithio ar fonograff i’w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru. Mae’r llyfr yn canolbwyntio ar y chwant rhwng unigolion o’r un rhyw, hunaniaeth genedlaethol a’r anrhefn cymdeithasol a geir yn ei nofelau, ac yn adrodd y stori a gadwodd Dillwyn ynghudd yn ei dyddiaduron rhyfeddol hyd yma.

css.php

© MenywodCymru

aht-logoCCC-Melyn

Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe