Heledd BebbMae Heledd yn Gyfarwyddwr gyda chwmni ymchwil polisi ‘Old Bell 3 Cyf’, lle mae’n ymgymryd â gwaith ymchwil, gwerthuso a chynghori ar draws ystod o feysydd gan gynnwys addysg, sgiliau a chyflogaeth; datblygu economaidd; adfywio cymunedol a materion cydraddoldeb a’r iaith Gymraeg.

Cyn hynny, fel Uwch-Ddarlithydd Busnes a Rheolaeth, roedd yn un o benodiadau academaidd cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. O dan ei harweinyddiaeth denodd niferoedd uchel i astudio trwy gyfrwng Cymraeg am y tro cyntaf mewn ysgolion busnes ar draws Prifysgolion De Ddwyrain Cymru. Roedd Heledd hefyd yn aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg.

Treuliodd Heledd gyfnod yn gweithio fel Rheolwr Polisi i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – gan ddarparu cyngor ar ystod o bynciau polisi amrywiol. Mae hi hefyd wedi gweithio i Menter a Busnes gan ddatblygu amryw o brosiectau masnachol y cwmni ynghyd â gweithio ar brosiect yn cynorthwyo pobl ifanc i sefydlu busnes.

Mae gan Heledd radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg, a gradd Meistr mewn Entrepreneuriaeth a Rheolaeth Busnesau Bach. Mae hi yn Gymrawd gyda’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig a’r Academi Addysg Uwch ac mae’n un o ymddiriedolwyr Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Yn ei hamser sbar mae’n mwynhau chwerthin yn iach yng nghwmni ei dau fab ifanc a bywiog, Cian ac Osian. Mae Heledd yn hoff o gadw’n heini’n trwy sesiynau ffitrwydd ‘crossfit’, mynydda a rhedeg rasys 10k – sy’n ymgais i ddad-wneud y drwg o’i diddordebau eraill – coginio, cymdeithasu a bwyta allan!

css.php

© MenywodCymru

aht-logoCCC-Melyn

Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe