Christine JamesMagwyd Christine James ar aelwyd ddi-Gymraeg yng Nghwm Rhondda, yn ferch i löwr, a dysgodd y Gymraeg fel ail iaith yn yr ysgol uwchradd. Wedi graddio BA gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth, aeth Christine ymlaen i astudio ar gyfer gradd PhD ym maes testunau Cyfraith Hywel (cyfreithiau brodorol Cymru). Bu’n swyddog golygyddol ar y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986) / The Oxford Companion to the Literatures of Wales (Oxford University Press, 1986), cyn cael ei phenodi i staff Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe. Mae hi bellach yn Athro (Cadair Bersonol) yn y Gymraeg yn Academi Hywel Teifi, lle y mae’n dysgu ar amrywiaeth eang o fodiwlau ar y cwrs gradd yn y Gymraeg ac yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig sydd yn cynnwys y Gymraeg. Mae Christine James yn Gymrawd o’r Academi Gymreig ers 2010, ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ers 2013. Mae hefyd yn Brifardd, wedi ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau, 2005, ac fe’i hetholwyd yn Archdderwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ar gyfer y cyfnod 2013-16 – y fenyw gyntaf erioed i ddal y swydd honno. Yn 2014 enillodd ei chasgliad cyntaf o gerddi, rhwng y llinellau (Cyhoeddiadau Barddas, 2013), gategori Barddoniaeth yng Nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, a’r un flwyddyn dyfarnwyd Gwobr Hywel Dda (Prifysgol Cymru) iddi am ei chyfrol electronig Machlud Cyfraith Hywel. Mae Christine yn briod, ac mae ganddi hi a’i gŵr, Wyn, dri o blant a dau ŵyr bach.

css.php

© MenywodCymru

aht-logoCCC-Melyn

Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe