llun mary wynne warner

Llun trwy garedigrwydd Syr Gerald Warner.

Roedd Mary Wynne Warner (1932––1998) yn fathemategydd disglair a lwyddodd i oresgyn llu o anawsterau i wneud cyfraniad nodedig yn ei maes. Ganed Mary Davies yng Nghaerfyrddin, a chafodd ei haddysg ysgol yn Ysgol Ramadeg Llanymddyfri ac ysgol breswyl Howells, Dinbych. Ar ôl graddio mewn mathemateg yn Rhydychen priododd Gerald Warner, un o’i chyd-fyfyrwyr. Penodwyd yntau yn llysgennad a bu’r teulu’n treulio cyfnodau mewn gwledydd ar draws y byd – Tsieina, Bwrma, Gwlad Pwyl, y Swistir a Malaysia. O ganlyniad i hynny, a magu teulu, roedd yn anodd i Mary Warner ddatblygu ei diddordebau mathemategol a llunio gyrfa iddi’i hun. Serch hynny enillodd radd doethur (PhD) tra’n byw yn Bwrma – camp eithriadol, yn arbennig wrth ystyried agweddau’r wlad honno at ferched. Ar ôl i’w gŵr ymddeol daeth cyfle o’r diwedd i Mary ddychwelyd i Brydain ac fe’i penodwyd i swydd darllenydd mewn mathemateg yn City University, Llundain, cyn ei dyrchafu i Gadair yn y brifysgol honno a pharhau i fod yn gynhyrchiol yn ei maes. Mae hi’n enghraifft arbennig iawn o ferch a arbenigodd mewn maes sydd, yn hanesyddol, yn brin o ferched ar y brig, ond a frwydrodd i wneud ei marc.

 

Yr Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts

llun gareth ffowc robertsRoedd yr Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ac yn Bennaeth Ysgol Addysg y Brifysgol. Cyn hynny bu’n Ymgynghorydd Mathemateg i Gyngor Sir Gwynedd cyn ei benodi’n Brifathro Coleg Normal Bangor. Mae ganddo arbenigedd ymchwil a chwricwlaidd mewn dysgu ac addysgu mathemateg. Ei brif ddiléit ar hyn o bryd
yw poblogeiddio mathemateg – dyna nod ei lyfr diweddar, Mae Pawb yn Cyfrif (Gwasg Gomer), sy’n wedi ei gyhoeddi yn Saesneg dan y teitl Count Us In (Gwasg Prifysgol Cymru), a hynny hefyd yw ei fwriad wrth osod her ddyddiol #posydydd a #puzzleoftheday ar Twitter dan enw @GarethFfowc. Yn ogystal ef yw golygydd Gwyddonwyr Cymru – Scientists of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru), sef cyfres o lyfrau poblogaidd sy’n tynnu sylw at gyfraniad Cymry at ddatblygiad gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg dros y blynyddoedd.

css.php

© MenywodCymru

aht-logoCCC-Melyn

Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe