Llun trwy garedigrwydd Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Llun trwy garedigrwydd Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Fel noddwraig i arlunwyr ifainc, yr oedd Winifred Coombe Tennant (1874-1956) yn ffigwr o bwys yn natblygiad celfyddyd yng Nghymru o’r 1920au i’r 1950au. Serch hynny, mynegodd ei gweithgareddau celfyddydol un ochr yn unig o’i chymeriad cymhleth. Yr oedd Winifred yn amlwg hefyd ym maes gwleidyddiaeth, yn gyntaf fel ffeminydd yn ymgyrchu dros y bleidlais i fenywod gyda’r National Union of Women’s Suffrage Societies, ac wedyn fel ffigwr radical yn y Blaid Ryddfrydol, yn cefnogi hunan-reolaeth i Gymru ac Iwerddon. Winifred oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yng Nghyngrair y Cenhedloedd. Ym 1922, cafodd ei hethol yn is-lywydd Cyngor Cenedlaethol Rhyddfrydwr Cymru, a safodd fel ymgeisydd y blaid ar gyfer etholaeth y Forest of Dean.

Yr oedd ei bywyd preifat yr un mor anarferol. Er iddi gadw’r ffaith yn gyfrinachol, ystyrid Winifred gan arweinwyr y Society for Psychical Research ymhlith mediums pwysicaf ei hoes. Drwy’r cyfan, cadwodd Winifred ddyddiadur manwl, sydd, erbyn hyn, i’w ystyried yn gyfraniad nodedig i lenyddiaeth hanner cyntaf yr 20fed ganrif ac mae’r dyddiadur yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gweler: Peter Lord, Winifred Coombe Tennant: a Life through Art (Aberystwyth, 2007)

Peter Lord (gol.), Between Two Worlds: the Diary of Winifred Coombe Tennant 1909-1924 (Aberystwyth, 2011)

 

Peter Lord

llun Peter LordFel hanesydd celf, mae Peter Lord wedi arloesi ym maes astudio diwylliant gweledol Cymru. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yng ngwaith arlunwyr gwlad y 18fed a’r 19eg ganrif, delweddu’r Gymru ddiwydiannol yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ac yn y problemau damcaniaethol sydd yn codi wrth astudio diwylliant gweledol mewn gwlad a ystyrir yn ymylol i brif-ffrwd celfyddydol y gorllewin. Rhwng 1998 a 2003, o dan y teitl Diwylliant Gweledol Cymru, cyhoeddodd dair cyfrol yn olrhain hanes celfyddyd Cymru o’r oesodd canol hyd 1960. Yn 2009 cyhoeddwyd The Meaning of Pictures (2009) ac yn 2013 gofiant o dan y teitl Relationships with Pictures: An Oblique Autobiography. Yn 2016 cyhoeddir cyfrol gynhwysfawr newydd am hanes celf Cymru, The Tradition: a New History of Welsh Art 1400-1990.

 

css.php

© MenywodCymru

aht-logoCCC-Melyn

Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe