Elin Rhys

Elin Rhys yw sylfaenydd a rheolwr cwmni aml-gyfrwng Telesgop yn Abertawe. Prif weithgareddau Telesgop yw cynhyrchu rhaglenni  ffeithiol ar gyfer y teledu, radio a’r we,  a chreu deunydd  DVD ac arlein ar gyfer cwmniau masnachol  a mudiadau addysgiadol. Mae pencadlys y cwmni yn Stiwidios y Bae, Abertawe ac fe gyflogir 25 o staff llawn amser ynghyd â degau o weithwyr llawrydd yn achlysurol.

Magwyd Elin yn Solfach, Caernarfon a Llanelli, gan astudio gwyddoniaeth yn yr ysgol a graddio mewn Biocemeg o Brifysgol Abertawe ym 1978. Bu’n gweithio fel gwyddonydd yn Awdurdod Dŵr Cymru am 5 mlynedd cyn dechrau gyrfa fel cyflwynydd teledu i HTV ym 1984. Dechreuodd weithio yn bennaf ar raglenni gwyddonol yn Gymraeg ond erbyn 1988 roedd yn cyflwyno rhaglenni cyffredinol i nifer o ddarlledwyr yn Gymraeg a Saesneg.

Sefydlodd gwmni Telesgop ym 1993 a rhoi’r gorau i gyflwyno. Y gyfres gyntaf i Telesgop gynhyrchu oedd Galactica, cyd gynhyrchiad ar seryddiaeth.  Mae Telesgop bellach yn darparu rhaglenni i nifer o ddarlledwyr, gan gynnwys S4C; BBC Wales; Channel 4; BBC Four, Discovery US ac Animal Planet. Dros y blynyddoedd mae Telesgop wedi teithio i dros 60 o wledydd, rhai ohonyn nhw y mannau mwyaf anghysbell ar y blaned, gan gynnwys y ddau begwn.

 

Prif ddiddordebau Elin yw seryddiaeth, syrffio, canu saxaphone i Gerddorfa Chwyth Caerfyrddin, a chwarae tenis i Glwb Tenis Llandeilo. Mae hi’n briod gyda’r darlledwr Richard Rees ac mae ganddynt un ferch.

css.php

© MenywodCymru

aht-logoCCC-Melyn

Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe