Mae Ffion Rhys yn gweithio fel Swyddog Dysgu ac Allestyn ar gyfer Artes Mundi – Gwobr ac Arddangosfa Weledol Rhyngwladol Cymru. Cafodd ei hyfforddi mewn Celfyddyd Gain ac mae hi wedi gweithio mewn addysg Celf am dros ddeng mlynedd. Mae hi’n angerddol am wneud diwylliant yn hygyrch i bob cynulleidfa oherwydd cred fod hyn yn cyfoethogi bywydau pobl. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau fel artist a chyd-lynydd gyda’r bwriad o gysylltu cynulleidfaeodd gyda Celf Cyfoesol yn arbennig.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Ffion gyd-lynu prosiect ledled Cymru gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a oedd yn anelu at roi cyfleoedd i bobl ifanc drwy weithio gyda chasgliadau yr Amgueddfeydd Genedlaethol. Mae hi hefyd yn gweithio fel artist proffesiynol ac mae wedi gweithio ar brosiectau animeiddio i’r BBC a Straeon Digidol yn y gymuned.
© MenywodCymru
Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe