Mae Mawrth yr 8fed bob blwyddyn yn cael ei gydnabod fel Diwrnod Rhyngwladol Menywod pan fo cyfle i bobl ar draws y byd ddathlu cyfraniad menywod i wahanol feysydd. Nod y wefan hon yw rhoi gogwydd Cymraeg a Chymreig ar y dathliadau hynny ac i fod yn adnodd parhaol a hyfyw er mwyn tynnu sylw at arloeswyr benywaidd y gorffennol a’r presennol.
Tyfodd y wefan o gynhadledd a gynhaliwyd gan Academi Hywel Teifi ac a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, ac mae rhai o’r unigolion a gyfrannodd at y gynhadledd honno i’w gweld ar y wefan. Un o sloganau Diwrnod Rhyngwladol Menywod yw i ni osod ein golygon yn fyd-eang ac i weithredu ar lefel leol. Y gobaith yw bydd yr adnodd hwn wrth iddo dyfu yn fodd o ddod ȃ menywod Cymru i sylw’r byd ac i gynnig rolau model addas i ferched ifainc Cymru i’w hysbrydoli.
Lansiwyd y wefan ar Chwefror y 24ain, 2016 ar y cŷd ag S4C a chwmni teledu Tinopolis a’u cyfres newydd o Mamwlad gyda Ffion Hague.
Web Team May 11th, 2016
Posted In: dim categori
© MenywodCymru
Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe