Mae Mawrth yr 8fed bob blwyddyn yn cael ei gydnabod fel Diwrnod Rhyngwladol Menywod pan fo cyfle i bobl ar draws y byd ddathlu cyfraniad menywod i wahanol feysydd. Nod y wefan hon yw rhoi gogwydd Cymraeg a Chymreig ar y dathliadau hynny ac i fod yn adnodd parhaol a hyfyw er mwyn tynnu sylw at arloeswyr benywaidd y gorffennol a’r presennol.

Tyfodd y wefan o gynhadledd a gynhaliwyd gan Academi Hywel Teifi ac a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, ac mae rhai o’r unigolion a gyfrannodd at y gynhadledd honno i’w gweld ar y wefan. Un o sloganau Diwrnod Rhyngwladol Menywod yw i ni osod ein golygon yn fyd-eang ac i weithredu ar lefel leol. Y gobaith yw bydd yr adnodd hwn wrth iddo dyfu yn fodd o ddod ȃ menywod Cymru i sylw’r byd ac i gynnig rolau model addas i ferched ifainc Cymru i’w hysbrydoli.

Nod tebyg sydd i’r gyfres deledu Mamwlad gyda Ffion Hague, a bydd y wefan hon yn cael ei lansio’n swyddogol ar Chwefror 24ain, 2016 ar y cyd ag S4C fydd yn lansio eu trydedd cyfres o Mamwlad sy’n cael ei chynhyrchu gan gwmni Tinopolis.

 

 

 

 

css.php

© MenywodCymru

aht-logoCCC-Melyn

Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe