Syffrajetiaid Caerdydd a ‘Jack the Ripper’

 

Er nad yw hi’n siwrne esmwyth bob tro, mae’r trip gartref o orsaf Paddington i Gaerdydd yn arbennig.

Os taw gwell Cymro, Cymro oddi cartre – wedyn gwell Cymraes ar ei ffordd gatre, greda i.

Rywle rhwng Reading a Swindon mae hudlath (ahem, neu ddiflastod) yn gweu’i ffordd ar hyd y cledrau, a mi fydda i’n teimlo’r ysfa i sgrifennu, i greu ac i fyfyrio am sbel.

Ers gweld lluniau o syffrajetiaid Caerdydd yn gorymdeithio yn Llundain, dwi’n aml wedi meddwl eu teithiau nhw i’r ddinas, bron i gan mlynedd yn ôl.

Pa mor wahanol oedd hi i’n siwrneau ni heddiw?

Sylwais yn arbennig ar y baneri maen nhw’n eu cario yn y lluniau prin sydd ohonyn nhw: pwy frodiodd nhw? Pwy yw’r menywod sy’n codi’r faner a’i chario?

Dechreuais gario baneri bychain gyda fi ar deithiau hir, a’u defnyddio i frodio enwau menywod o hanes Cymru a thu hwnt. Daeth yn brosiect poced ar y cyd â Sian Lile-Pastore, a gallwch ddarllen rhagor am ein gwaith yn brodio hanes menywod yn llyfr diweddaraf Betsy Greer: The Art and Craft of Craftivism.

baneri suffragettes

Detholiad o Faneri ‘Syffrajet’ Cyfoes: Sara Huws a Sian Lile-Pastore

Ac yna, un pnawn yn 2015, agorodd amgueddfa newydd – un a oedd wedi addo dathlu hanes menywod – ond pan ddaeth y sgaffald i lawr, daeth yn amlwg mai amgueddfa i lofrudd merched oedd yn ei le: Amgueddfa Jack the Ripper.

Cyfryngau Cymdeithasol a Sialens Newydd i Ffeministiaid

Roedd yr amgueddfa arfaethedig i fod i olrhain hanes menywod – fel yr rhai a arweiniodd Frwydr Cable Street yn erbyn ffasgwyr, a ymladdodd am hawliau gweithwyr fel y Gwneuthurwragedd Matsys. Yn hytrach na brodio baner arall, mi benderfynais ddefnyddio technoleg i alw ar bobl i ymuno â mi, i greu amgueddfa amgen, fyddai’n dathlu hanes menywod Llundain a thu hwnt.

O’r cychwyn cyntaf, fy ngweledigaeth i, a’m cyd-sylfaenydd, Sarah Jackson, oedd i greu amgueddfa a fyddai’n creu lle i gasglu, dathlu ac arddangos straeon menywod sydd wedi eu hepgor o arddangosfeydd mawr yr amgueddfa draddodiadol. Mewn cyfnod ‘ble mae angen i ni ffemisitiaid gwyn, dosbarth canol, cis, archwilio ein rôl mewn gorthrymu menywod duon, menywod asiaidd, menywod trans*, roedd hwn yn gam pwysig iawn i ni – i ddefnyddio momentwm ein hymgyrch i greu ffordd newydd, gynhwysfawr o olrhain hanes menywod.

Technoleg ac Ymgyrchu

Felly, be sy’n fy nenu i Lundain ar hyn o bryd yw’r East End Women’s Museum.

Ers ei sefydlu’r amser cinio hwnnw, dros twitter ac o Gaerdydd, mae 800 ohonom yn gweithio tuag at greu cartre i hanes menywod yn Llundain – a mae cyfle i chi gymeryd rhan! Cysylltwch â ni dros twitter a facebook – rydym ni’n awyddus iawn i glywed am fenywod o Gymru sydd â chysylltiad teuluol â Dwyrain Llundain, neu sy’n byw yno heddiw ac eisiau gwirfoddoli.

Ymunwch â ni ar y siwrne – wrth i ni gerdded ymlaen dan faner hanes menywod.

Mai 27th, 2016

Posted In: Treftadaeth

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php

© MenywodCymru

aht-logoCCC-Melyn

Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe