Ai wos ddêr ond welais i ddim mo Max Boyce yno chwaith. Wel roedd rhaid bod yno on’d oedd, ac roedd rhaid corlannu merched y teulu at ei gilydd yn famau a merched, chwiorydd, nithoedd, cyfnitherod ac wyresau.

 

 

Ar Facebook y gwelais i sôn amdano’n gyntaf a Facebook sydd biau’r digwyddiad hwn drwyddo draw. Clywais sôn mai ryw Fam-gu yn America oedd man cychwyn hyn oll, wedi iddi bostio’i phryder am ddyfodol ei hwyres a chael ryw hanner dwsin o ‘likes’ cyn clwydo, dim ond i ddeffro a gweld bod hanner y byd wedi bodio’u ‘like’ hwythau hefyd erbyn y bore bach. Dim syndod. Mae mynegi anniddigrwydd drwy hoffi ar Facebook yn ffordd hawdd o ddatgan jest y lefel iawn hwnnw o ymwybyddiaeth wleidyddol heb orfod codi o’r gadair freichiau. Trump! Baa! Yr hyn sy’n ddiddorol yw beth ddigwyddodd nesaf. Tyfodd mudiad newydd fel topsi. Denodd ffeministiaid, do, ond roedd ei apêl yn ehangach na hynny hyd y gwelaf i. Roedd yn fynegiant o’r pwys a godwyd ynom, yn ddynion a gwragedd, bod dyn o gyfoeth anfoesol yn gallu chwydu ei froliant ynghylch ymddygiad rheibus, casineb bas a gwleidyddiaeth anaeddfed cyn cael ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau. I beth mae’r byd yn dod? Dewch nawr. Sdim sens yn y peth.

Cyfres o negeseuon grŵp ‘Genod’ ar Whatsapp, cwrdd am ginio yn Crumbs, (ble y cewch chi’r salad gorau yng Nghaerdydd ers 1976), cyn anelu at ein cyrchfan – cerflun Aneurin Bevan ar waelod Stryd y Frenhines. Roedd Gwenno Dafydd yn arwain yn gelfydd ddwyieithog yn yr oerfel, a chafwyd sawl siaradwr arall, er doedd yr uchel seinydd ddim gyda’r gorau rhaid dweud, a doedden ni ddim yn gallu clywed yr hyn oedd ganddynt i’w ddweud. Dim ots. Roedden ni’n gallu troi at Twitter ac Instagram i ddilyn y cyfan, ble mae pawb yn clywed pob gair a gweld pob seleb. Selffi Leanne a Charlotte oedd gyda’r gorau. Yna, gorymdeithio i lawr Stryd y Frenhines gan lafarganu siant a ddaeth o enau swil dwy ferch fach i ddechrau: ‘Dump the Trump’; cyn i bawb ymuno. Roedd yr awyrgylch yn eitha’ cyffrous. Doedd dim byd yn fygythiol nac yn annifyr am y digwyddiad er gwaetha’i gynsail.   Caf yr un argraff â’r holl orymdeithiau eraill ledled y byd. Sut dwi’n gwybod? Newyddion teledu i raddau, ond ar Facebook ac Instagram gan fwyaf. Roedd ‘sundaysuppers’ yn Downtown Los Angeles yn diolch i’r ddynoliaeth am ein hatgoffa -o’r holl bethau cadarnhaol yn y byd ‘despite some that is very wrong’; lisajenbrown ym Mangor; tom_cullen yn Toronto; heb anghofio bolycscymraeg a’u llun o Morfudd Ellis a allai wneud ei ffortiwn ar grys-t Cowbois yn y ‘Steddfod nesaf. Ydy, Morfudd, y mae Trump yn drewi o bŵ. Pont Ann Richards dan ei sang yn Texas, wedyn, a tomemyr yn cofnodi cyfraniad ein teulu ni.

Ac felly esblygodd yr hyn a ddechreuodd fel pryder Mam-gu am ddyfodol ei hwyres i fod yn waedd unfryd a thaer yn erbyn hiliaeth a rhagfarn, ac yn erbyn troi’r cloc yn ôl i gyfnod pan oedd gwên deg ac addewidion gwag yn cuddio islais brawychus â goleddf a wyrai’n ormodol tua’r dde eithafol.

‘What are they protesting against?’ gofynnodd ryw ddynes yn Zara. ‘Swn i’n synnu’n fawr pe na bai hi’n gwybod bellach.

Bethan Siân Reeves

Mae Siȃn yn gyfieithydd llawn amser ac yn byw yn Aberhonddu, mae i’w gweld i’r ail o’r chwith yn y llun.  Instagram: @ceginsian

Ionawr 22nd, 2017

Posted In: dim categori

Leave a Reply

Your email address will not be published.

css.php

© MenywodCymru

aht-logoCCC-Melyn

Cynhelir gan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau, Prifysgol Abertawe